Main content

"Nid rŵan ydi’r amser" gan Marged Tudur, 03/04/2017

Marged Tudur yn ymateb i eiriau Theresa May "now is not the time" pan gyhoeddodd Nicola Sturgeon ei bwriad i ofyn am annibyniaeth i'r Alban.

“Now is not the timeâ€

Nid rŵan ydi’r amser i weld blagur ar frigau
na gweld drwy lygaid ebrill y gog yn glychau.

Nid rŵan ydi’r amser i wrando’r coed yn prifio
na gwylio’r ardd yn dechrau deilio.

Nid rŵan ydi’r amser i ddal y bore’n trydar
nac arogli’r haul yn cosi’r ddaear.

Nid rŵan ydi’r amser i lasu’r llethrau
na theimlo’r cawodydd yn blingo’r caeau.

Nid rŵan ydi’r amser i dynnu’n gareiau,
na chodi llais a mynnu hawliau.

Nid rŵan ydi’r amser i wireddu gweledigaeth
na meiddio gofyn am annibyniaeth.

Pan ddaeth hi’n amser i drafod y cais,
does ryfedd Mai na oedd dy ateb trahaus

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o