ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

"Nid rŵan ydi’r amser" gan Marged Tudur, 03/04/2017

Bore Cothi

Available for over a year

Marged Tudur yn ymateb i eiriau Theresa May "now is not the time" pan gyhoeddodd Nicola Sturgeon ei bwriad i ofyn am annibyniaeth i'r Alban. “Now is not the time” Nid rŵan ydi’r amser i weld blagur ar frigau na gweld drwy lygaid ebrill y gog yn glychau. Nid rŵan ydi’r amser i wrando’r coed yn prifio na gwylio’r ardd yn dechrau deilio. Nid rŵan ydi’r amser i ddal y bore’n trydar nac arogli’r haul yn cosi’r ddaear. Nid rŵan ydi’r amser i lasu’r llethrau na theimlo’r cawodydd yn blingo’r caeau. Nid rŵan ydi’r amser i dynnu’n gareiau, na chodi llais a mynnu hawliau. Nid rŵan ydi’r amser i wireddu gweledigaeth na meiddio gofyn am annibyniaeth. Pan ddaeth hi’n amser i drafod y cais, does ryfedd Mai na oedd dy ateb trahaus

Programme Website
More episodes