Main content

Bedd Branwen

Â’r cennin pedr yn crebachu
ar gyrion pentrefi, cylchfannau a thraffyrdd,
down ninnau
fel blodau’r ddraenen ddu
i lygadu’r byd o’r newydd.

Awn
ar y trên i Lundain
a chyrchu’r Tŵr a’r Tŷ a Madame Tussauds.
Awn
a hedfan i Ferlin
i sdydio’r Wal a’r Giât a Checkpoint Charlie.
Awn
a dod oddi yno’n teimlo’n well
a’n gorwelion yn lledu’n bell
dros gefnfor ddoe.

Ond yma,
ar lan yr afon Alaw,
does dim enw ar lechen las,
dim einioes wedi’i lapio mewn englyn,
dim llun ac olion chwedl wedi’i gadw dan wydr,
dim hyd yn oed arwyddbost.
Dim byd ond seren ar fap OS
a darn o garreg ar gornel cae.

Anghofiwn
a’i gadael hi a’i hiraeth
mewn mawnog a chors a thocyn brwyn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud