Episode details

Available for over a year
Â’r cennin pedr yn crebachu ar gyrion pentrefi, cylchfannau a thraffyrdd, down ninnau fel blodau’r ddraenen ddu i lygadu’r byd o’r newydd. Awn ar y trên i Lundain a chyrchu’r Tŵr a’r Tŷ a Madame Tussauds. Awn a hedfan i Ferlin i sdydio’r Wal a’r Giât a Checkpoint Charlie. Awn a dod oddi yno’n teimlo’n well a’n gorwelion yn lledu’n bell dros gefnfor ddoe. Ond yma, ar lan yr afon Alaw, does dim enw ar lechen las, dim einioes wedi’i lapio mewn englyn, dim llun ac olion chwedl wedi’i gadw dan wydr, dim hyd yn oed arwyddbost. Dim byd ond seren ar fap OS a darn o garreg ar gornel cae. Anghofiwn a’i gadael hi a’i hiraeth mewn mawnog a chors a thocyn brwyn.
Programme Website