Cerdd gan Marged Tudur, bardd y mis
I LlÅ·r Serw ap Glyn
Heddiw, i Lanrwst
daeth dydd o haf
i gofleidio gwanwyn,
daeth moto beics i sgrytian
oglau’r Gogarth hyd y stryd
a thros y bont daeth rhai
i weld yr haul yn taenu’i liw
yn nrych yr afon.
A heddiw, yn Llanrwst
Serw sydd yn Gae Llan o groeso,
yn sicrwydd mewn storm,
yn Sadwrn ymhob Sul,
yn dynnu coes, yn ewyllys.
O’i gadair ger y ffenest
Serw sydd yn cyrraedd y Carneddau
a Serw sydd yn ymestyn at yfory
ei Gymru gyda gwên.
Diflannodd yr haul,
distawodd y moto beics,
dychwelodd rhai yn ôl dros y bont
ond yn Llanrwst, Serw sydd
yn gymar ac yn dad cadarn,
yn fab ac yn frawd o haearn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2017 - Marged Tudur—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Ebrill 2017 yw Marged Tudur.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Y tad, y mab a'r snwcer!
Hyd: 08:25
-
Papur gwyddoniaeth am faelgwn
Hyd: 06:18
-
Tsilis o Ferthyr!
Hyd: 07:22