Be fwy sy na i ddeud?
Be fwy sy na i ddeud?
(Cofio tywys criw o ddysgwyr ardal Wrecsam i Drawsfynydd,
Gorffennaf 2013)
Chydig a ddysgai'n dysgwyr yr adeg hynny
tu hwnt i'r iaith.
Am feirdd a phethach felly.
Roedd treigladau'n ddigon o fagl
heb sôn am gynghanedd. Er bod rhai'n gwirioni.
Felly dyma ni ar drip addysgol
ryw Orffennaf chwilboeth
tua'r Traws, Llys Ednowain,
ymlwybro heibio'r cerflun a'r gofgolofn
i'r Ysgwrn, calon y daith.
A phawb yn falch o wasgu i barlwr oer y tÅ·
rhag gwres y dydd.
Herio ffiniau'u hiaith
wnâi sgwrs a straeon Gerald wrth erchwyn y Gadair
chaech chi ddim eista ynddi bellach
am ei bod yn fregus.
Gwyddwn yr hanes fy hun, wrth gwrs,
wel, rhan fwya.
A chrwydrai fy llygaid i geisio darllen
yr adwaith yn wynebau'r lleill
wrth arfer â'r tywyllwch rôl yr haul.
Dyna gofia i
y Gorffennaf arall yma
sy'n dod â chanrif y coffa
i ben ei mwdwl.
A'r myth yn dal i fwydo
pan nad oes gan hanes
ddim byd mwy i ddeud.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Gorffennaf 2017 - Dr Siôn Aled Owen—Gwybodaeth
Dr Siôn Aled Owen yw bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Gorffennaf 2017.