Episode details

Available for over a year
Be fwy sy na i ddeud? (Cofio tywys criw o ddysgwyr ardal Wrecsam i Drawsfynydd, Gorffennaf 2013) Chydig a ddysgai'n dysgwyr yr adeg hynny tu hwnt i'r iaith. Am feirdd a phethach felly. Roedd treigladau'n ddigon o fagl heb sôn am gynghanedd. Er bod rhai'n gwirioni. Felly dyma ni ar drip addysgol ryw Orffennaf chwilboeth tua'r Traws, Llys Ednowain, ymlwybro heibio'r cerflun a'r gofgolofn i'r Ysgwrn, calon y daith. A phawb yn falch o wasgu i barlwr oer y tŷ rhag gwres y dydd. Herio ffiniau'u hiaith wnâi sgwrs a straeon Gerald wrth erchwyn y Gadair chaech chi ddim eista ynddi bellach am ei bod yn fregus. Gwyddwn yr hanes fy hun, wrth gwrs, wel, rhan fwya. A chrwydrai fy llygaid i geisio darllen yr adwaith yn wynebau'r lleill wrth arfer â'r tywyllwch rôl yr haul. Dyna gofia i y Gorffennaf arall yma sy'n dod â chanrif y coffa i ben ei mwdwl. A'r myth yn dal i fwydo pan nad oes gan hanes ddim byd mwy i ddeud.
Programme Website