 
                    
                Ynyr Roberts - Swatia'n Dawel
Swatia'n dawel
Swatia’n dawel bach, fy nghyw, anghofia'r byd o'th gwmpas;
y gwynt sy'n chwipio blodau'r Garn, yn oeri tai y ddinas.
A thithau’n swatio'n dawel bach mae son am gau y ffiniau,
am gadw'r bobl ar-wahan a'r werin ar ei gliniau. 
A thithau’n swatio'n dawel bach gwaiff dyn ei frawd yn elyn.
Pan dyfi'n ddyn, fy machgen tlws a brofi dithau’r gwenwyn? 
A thithau’n swatio'n dawel bach mae’n daear ni yn diodda',
pan dyfi'n hyn a fydd hi'n waeth, yn gaeth i’w gwely angau? 
A thithau’n swatio'n dawel bach rwy'n ymbil, rwy'n gobeithio
y byddi di a'th ffrindiau’n gryf, yn well na ni, yn llwyddo
i ddod a chariad nôl i'r byd i weld be sydd yn cyfri,
ond swatia heno'n dawel bach, fy machgen tlws, fy mabi. 
Mae’r nos yn llawn cysgodion blin a minnau’n hawdd fy nychryn
ond pan ddaw’th wên i liwio’r wawr daw haul i ddrws fy mwthyn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Bardd Medi 2017 - Casia Wiliam—Gwybodaeth- Casia Wiliam yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Medi 2017. 
Mwy o glipiau Caryl Parry Jones
- 
                                                ![]()  Nadolig Ddoe a HeddiwHyd: 01:51 
- 
                                                ![]()  "Faux Pas" ffasiwn!!Hyd: 03:21 
- 
                                                ![]()  Mewn neu mas?! Mas neu mewn!?Hyd: 00:33 
- 
                                                ![]()  Cerdd Nia Powell Bardd y Mis Radio CymruHyd: 01:19 
 
             
 
             
             
            