ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd Nia Powell Bardd y Mis Radio Cymru

Caryl Parry Jones

Available for over a year

Etholiad Gogledd Iwerddon Mawrth 2017 O ing angerdd Sect, ynys werdd Ddoe bardduwyd A’i rhoi dan rwyd Dolur dwywlad, Yn gaeth i gad. Pen diben dyn Gwylio gelyn, Amarch carchar O gosb i’r gwâr A gwaedd Gwyddyl Yn nos pob cnul. Trwy waed pob trin, Hiraeth Erin Yw cân y caeth Digymdogaeth, Llais yn llawn llid, A rhodd rhyddid I dorf derfysg Ymhell o’u mysg. A ddaeth hi’n ddydd Oed y gwleidydd? Adlodd pleidlais Yw troi o’r trais I lon y wlad Un dymuniad Heb ôl bwled - Rhoi croes, rhoi cred Yn un ynys O’i llan i’w llys. Hwyrach, Erin Â’i phobl heb ffin.

Programme Website
More episodes