Main content

Cerdd Nia Powell Bardd y Mis Radio Cymru

Etholiad Gogledd Iwerddon Mawrth 2017

O ing angerdd
Sect, ynys werdd
Ddoe bardduwyd
A’i rhoi dan rwyd
Dolur dwywlad,
Yn gaeth i gad.
Pen diben dyn
Gwylio gelyn,
Amarch carchar
O gosb i’r gwâr
A gwaedd Gwyddyl
Yn nos pob cnul.

Trwy waed pob trin,
Hiraeth Erin
Yw cân y caeth
Digymdogaeth,
Llais yn llawn llid,
A rhodd rhyddid
I dorf derfysg
Ymhell o’u mysg.

A ddaeth hi’n ddydd
Oed y gwleidydd?
Adlodd pleidlais
Yw troi o’r trais
I lon y wlad
Un dymuniad
Heb ôl bwled -
Rhoi croes, rhoi cred
Yn un ynys
O’i llan i’w llys.
Hwyrach, Erin
Â’i phobl heb ffin.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...