Bardd y Mis - Heiddwen Tomos - Cerdd i Galwad, 'Tachwedd'
Tachwedd
Briwiau’r sêr,
sydd ar groen y bore,
a chlais y nos yn ddu amser codi.
Cwsg. Trwm gwsg
y caeau gwair.
Stacan o foi yw’r glaw
Sy’n codi poer
Wrth bregethu
bod yr haf wedi pallu.
Afon feichiog
Lan at ei bogel,
A’r borfa’n boddi.
Pollethi pridd,
Caeau’n stêcs.
Ambell goeden ar ei gorwedd.
Bigit y brigau
Sy’n dwyn y ddeilen olaf
o’r clawdd.
Yr allt yn borcyn,
a’i bysedd gwrach yn rhisgl brau.
Gwelaf yr hewl ddu
yn sodlau’r defaid,
ar dramp drwy’r dolydd di gwilt.
Da bach yn pori,
Adar yn sgathru,
A’r brain fel nodau
ar llinell o gerddoriaeth.
Mae cân y Gaeaf yn y gwynt.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Tachwedd 2017 - Heiddwen Tomos—Gwybodaeth
Heiddwen Tomos yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2017.
Mwy o glipiau 25/11/2017
-
Gai fwyta hwn?
Hyd: 02:33
-
85 milltir - Llwybyr llechi Eryri
Hyd: 04:56
-
Cleddyf Llanberis - Celf mewn Cefn gwlad
Hyd: 03:13
-
Hadau i fwydo Byd - Dr Paula Roberts
Hyd: 04:31
Mwy o glipiau Galwad Cynnar
-
Llynnoedd Cymru
Hyd: 02:39
-
Y wennol
Hyd: 03:38