ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Bardd y Mis - Heiddwen Tomos - Cerdd i Galwad, 'Tachwedd'

Galwad Cynnar

Available for over a year

Tachwedd Briwiau’r sêr, sydd ar groen y bore, a chlais y nos yn ddu amser codi. Cwsg. Trwm gwsg y caeau gwair. Stacan o foi yw’r glaw Sy’n codi poer Wrth bregethu bod yr haf wedi pallu. Afon feichiog Lan at ei bogel, A’r borfa’n boddi. Pollethi pridd, Caeau’n stêcs. Ambell goeden ar ei gorwedd. Bigit y brigau Sy’n dwyn y ddeilen olaf o’r clawdd. Yr allt yn borcyn, a’i bysedd gwrach yn rhisgl brau. Gwelaf yr hewl ddu yn sodlau’r defaid, ar dramp drwy’r dolydd di gwilt. Da bach yn pori, Adar yn sgathru, A’r brain fel nodau ar llinell o gerddoriaeth. Mae cân y Gaeaf yn y gwynt.

Programme Website
More episodes