Cerdyn
Pan gria dagrau’r barrug hyd y ddôl
a’r gwynt yn sôn o hyd mor bell fo’r gwanwyn,
mor anodd clywed curo’r galon ffôl,
â’r tonnau’n rhuo dros hen greigiau Llanddwyn;
mae’r golch i’w wneud, ac angen mynd â’r plant
i’r fan a’r fan, rhaid darllen adroddiadau,
a chipio ambell wên cyn dechrau siant
defodau braf noswylio a’i storïau.
Ond yn y bore brau daw’r geiriau’n nes,
a heddiw, cymer bader bach wrth ddeffro,
llythrennau llosg o serch sydd yma’n rhes
fel gwreichion o ganhwyllau’n ein goleuo;
a chael rhwng plygion cusan llatai dau
yr haf a dd’wed mai cariad sy’n parhau.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2018 - Llion Pryderi Roberts—Gwybodaeth
Llion Pryderi Roberts yw Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer Ionawr 2018.
Mwy o glipiau Bore Cothi
-
'Mae di bod yn siwrne wych' - Greg Caine
Hyd: 06:10
-
Ydi hi'n ta ta i'r twmpath? - Eifion Price
Hyd: 02:43