Episode details

Available for over a year
Pan gria dagrau’r barrug hyd y ddôl a’r gwynt yn sôn o hyd mor bell fo’r gwanwyn, mor anodd clywed curo’r galon ffôl, â’r tonnau’n rhuo dros hen greigiau Llanddwyn; mae’r golch i’w wneud, ac angen mynd â’r plant i’r fan a’r fan, rhaid darllen adroddiadau, a chipio ambell wên cyn dechrau siant defodau braf noswylio a’i storïau. Ond yn y bore brau daw’r geiriau’n nes, a heddiw, cymer bader bach wrth ddeffro, llythrennau llosg o serch sydd yma’n rhes fel gwreichion o ganhwyllau’n ein goleuo; a chael rhwng plygion cusan llatai dau yr haf a dd’wed mai cariad sy’n parhau.
Programme Website