Main content

Cloddiau - Cerdd Bardd y Mis

Cloddiau
(i Edward a Gareth)

Rhyw faglu crwydro wnaem hyd Fedi brau
fel ’tai’n Orffennaf gwych, pan oeddem ni
yn sioncach ar ein traed, a’r lôn yn iau,
wrth redeg o’r Henefail rhag y ci.

Rwy’n cofio porfa wyrddach daear lawr
a phob mwyaren ddu yn grwn fel gem
wrth basio gwrych petalog tro TÅ· Mawr,
cyn cyrraedd gwledd perllannau Anti Em.

Ac er nas daliwyd ni yn nhrem y llwynog,
mae trindod lôn yn chwilio’r dyddiau gwyn,
a sbecian cysgod byr y llwybrau heulog
sy’n sleifio rhwng blodeuged perthi’r Bryn
a’r anhreuliedig flas ar jam Whitehall,
ond gwn mai ’myrraeth fyddai mentro’n ôl.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

55 eiliad