Episode details

Available for over a year
Cloddiau (i Edward a Gareth) Rhyw faglu crwydro wnaem hyd Fedi brau fel ’tai’n Orffennaf gwych, pan oeddem ni yn sioncach ar ein traed, a’r lôn yn iau, wrth redeg o’r Henefail rhag y ci. Rwy’n cofio porfa wyrddach daear lawr a phob mwyaren ddu yn grwn fel gem wrth basio gwrych petalog tro Tŷ Mawr, cyn cyrraedd gwledd perllannau Anti Em. Ac er nas daliwyd ni yn nhrem y llwynog, mae trindod lôn yn chwilio’r dyddiau gwyn, a sbecian cysgod byr y llwybrau heulog sy’n sleifio rhwng blodeuged perthi’r Bryn a’r anhreuliedig flas ar jam Whitehall, ond gwn mai ’myrraeth fyddai mentro’n ôl.
Programme Website