Main content

Cerdd i'r Ffermwyr Ifanc gan Beryl Griffiths - Bardd y Mis

Y Ffermwyr Ifanc 14/03/18

Wrth wneud eich cyfrifiadau
A cheisio’r arbediadau,
Wel peidiwch wir â rhoi eich coel
Ar ddim ond moel ffigyrau.

Ni welwch ar eich taenlen
Y rhai sydd wrthi’n llawen
Yn rhoi o’u hamser yn ddi-dâl
I’r ieuenctid ga’l gwell bargen.

Y mae eich punnoedd crintach
Yn tyfu yn helaethach
Ac am bob punt a roddwch chi
Mae’r gwerth i ni’n ehangach.

Ac os oes arnoch eisiau
Gweld gwerth eich cyfraniadau
Edrychwch chi pwy sydd yn dal
I gynnal cymunedau.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

40 eiliad

Daw'r clip hwn o