Episode details

Available for over a year
Y Ffermwyr Ifanc 14/03/18 Wrth wneud eich cyfrifiadau A cheisio’r arbediadau, Wel peidiwch wir â rhoi eich coel Ar ddim ond moel ffigyrau. Ni welwch ar eich taenlen Y rhai sydd wrthi’n llawen Yn rhoi o’u hamser yn ddi-dâl I’r ieuenctid ga’l gwell bargen. Y mae eich punnoedd crintach Yn tyfu yn helaethach Ac am bob punt a roddwch chi Mae’r gwerth i ni’n ehangach. Ac os oes arnoch eisiau Gweld gwerth eich cyfraniadau Edrychwch chi pwy sydd yn dal I gynnal cymunedau.
Programme Website