Main content
Hen Dric, Gwennan Evans
Hen Dric
Rwy’n siŵr i mi glywed y tap yn rhedeg,
sŵn strociau gofalus y rasel
a’r brws yn dawnsio’n y dŵr.
Arogl coffi wedyn yn fy nenu
a chlep y papurau
yn swp trwm ar y bwrdd.
Mae na bâr o sliperi wrth erchwyn y gwely
ac mae rhywun wedi damsgen ar eu cefnau.
Ac am un eiliad fach
gallaf deimlo’r ochr arall i’r gwely’n gynnes.
Hen dric gwael
sy’n twyllo a darbwyllo am yn ail
ar foreau Sul dioglyd
rhwng cwsg ac effro.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2018 - Gwennan Evans—Gwybodaeth
Gwennan Evans yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2018.