Ar Drothwy Calan Mai
Mae naws min nos mwy’n anesmwyth,
am fod ei gathod bygythiol
o boptu’r stryt yn strytian,
efo’u hewinedd yn amlwg, finiog,
a’u sgrechian hisian ym mer ein hiasau.
Sŵn brain sy’n y wybrennydd
yn gwawdio heidio i’r hwyr
i gynnull bwganod
o’u camp yn sgerbydau’r coed.
Ninnau, yn awr ein hofn, yn aros
am arwydd fod chwilod y meirwon
i’n gardd ar gerdded,
a fory’n dihuno
yn hunlle bore’r barrug.
Ond o’r awr dywyll daw’r wawr,
daw awel haf o rywle i feirioli’r
heth a’r rhew;
hin gynnes sy’n ymestyn,
a heddiw Mai fydd hi mwyach,
oblegid y mae blagur
y geiriau o geirios
di-rym yn drech
na’r rhew yn Korea.
A daw gwenoliaid â gwên eilwaith
i nen ein hofn
Calan Mai: clywn y mwyalch.
Rhys Dafis
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2018 - Rhys Dafis—Gwybodaeth
Rhys Dafis yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mai 2018.