ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Ar Drothwy Calan Mai

Bore Cothi

Available for over a year

Mae naws min nos mwy’n anesmwyth, am fod ei gathod bygythiol o boptu’r stryt yn strytian, efo’u hewinedd yn amlwg, finiog, a’u sgrechian hisian ym mer ein hiasau. Sŵn brain sy’n y wybrennydd yn gwawdio heidio i’r hwyr i gynnull bwganod o’u camp yn sgerbydau’r coed. Ninnau, yn awr ein hofn, yn aros am arwydd fod chwilod y meirwon i’n gardd ar gerdded, a fory’n dihuno yn hunlle bore’r barrug. Ond o’r awr dywyll daw’r wawr, daw awel haf o rywle i feirioli’r heth a’r rhew; hin gynnes sy’n ymestyn, a heddiw Mai fydd hi mwyach, oblegid y mae blagur y geiriau o geirios di-rym yn drech na’r rhew yn Korea. A daw gwenoliaid â gwên eilwaith i nen ein hofn Calan Mai: clywn y mwyalch. Rhys Dafis

Programme Website
More episodes