Elfed, Y Prif Weithredwr
rhoi'r awch i boeri gwreichion
a byw yr iaith dan ein bron,
a rhoi, fel y gwna Pen'groes,
orau ran o'th hir einioes:
rhoi'r llwyfan i'r gair llafar,
i gwrw a gwg y gair gwâr,
rhoi i'r Orsedd ei hedd hi,
rhoi heniaith, a'i choroni:
rhoi i yfwyr eu prifwyl,
rhoi i deulu Gymru'i gwyl,
a rhoi mwy i ddrama hon
y gwyliau sy'n dy galon:
rhoi i hen wêr brin o arian
lun o gerdd gynnal hen gân,
rhoi i ateb y brotest,
rhoi bri a'n noddi a wnest:
rhoi ynni dy arweiniad
a rhoi'r wledd i dir y wlad,
rhoi'n unfarn ar ein henfaes,
a rhoi i mewn i agor Maes:
ac mor gymraeg y rhegi,
rhoi yn ein hiaith dy waith di,
a rhoi, fel y gwna Pen'groes,
orau ran o'th hir einioes.
Karen Owen
10.8.18
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd—Eisteddfod Genedlaethol 2018- Rhaglenni Radio Cymru o Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd. 
Mwy o glipiau Eisteddfod Genedlaethol 2018
- 
                                                ![]()  "Gig gorau'r Steddfod"Hyd: 02:36 
- 
                                                ![]()  Osian, Meilyr a BranwenHyd: 03:34 
- 
                                                ![]()  Canu yn Eisteddfod Machynlleth 1937Hyd: 00:43 
- 
                                                ![]()  Huw Stephens: Araith Llywydd yr Å´ylHyd: 15:28 
 
         
             
 
             
             
            