Episode details

Available for over a year
rhoi'r awch i boeri gwreichion a byw yr iaith dan ein bron, a rhoi, fel y gwna Pen'groes, orau ran o'th hir einioes: rhoi'r llwyfan i'r gair llafar, i gwrw a gwg y gair gwâr, rhoi i'r Orsedd ei hedd hi, rhoi heniaith, a'i choroni: rhoi i yfwyr eu prifwyl, rhoi i deulu Gymru'i gwyl, a rhoi mwy i ddrama hon y gwyliau sy'n dy galon: rhoi i hen wêr brin o arian lun o gerdd gynnal hen gân, rhoi i ateb y brotest, rhoi bri a'n noddi a wnest: rhoi ynni dy arweiniad a rhoi'r wledd i dir y wlad, rhoi'n unfarn ar ein henfaes, a rhoi i mewn i agor Maes: ac mor gymraeg y rhegi, rhoi yn ein hiaith dy waith di, a rhoi, fel y gwna Pen'groes, orau ran o'th hir einioes. Karen Owen 10.8.18
Programme Website