Main content

Y Filltir Sgwâr - Elinor Wyn Reynolds, Bardd y Mis

Y Filltir Sgwâr

Does gan y filltir hon ddim corneli,
dim cysgodion i gwato neu lechu
dim dechrau na diwedd iddi,
mae’n fwy na’i maintioli.
Ac o’r funud y cei di dy eni
mae’n gadael ei hôl arnat ti,
a dim ots os mai i bedwar ban yr ei di
neu hyd yn oed y tu hwnt i hynny,
cei fynd â thamed ohoni ’da ti,
wa’th mae’n plygu’n dwt fel origiami
i faint cledr llaw i’w chadw’n deidi
mewn poced nesa at dy galon di.
Achos dyma ble mae dy bobl di,
dy dylwyth a’r rhai sy’n dy garu.
Dyma ble mae’r tir a’r awyr yn toddi,
yn plethu i’w gilydd yn gybolfa gyfarwydd o gynefin a theulu.
A dyma ble mae bwrw gwraidd yn cyfri,
dyma ble mae’r egin a’r egni
ac yn nerth bôn y fraich daw blagur i dyfu.
A sut fedra i esbonio mewn geiriau i chi
mai fan hyn yw fi?

Elinor Wyn Reynolds

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o