ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Y Filltir Sgwâr - Elinor Wyn Reynolds, Bardd y Mis

Geraint Lloyd

Available for over a year

Y Filltir Sgwâr Does gan y filltir hon ddim corneli, dim cysgodion i gwato neu lechu dim dechrau na diwedd iddi, mae’n fwy na’i maintioli. Ac o’r funud y cei di dy eni mae’n gadael ei hôl arnat ti, a dim ots os mai i bedwar ban yr ei di neu hyd yn oed y tu hwnt i hynny, cei fynd â thamed ohoni ’da ti, wa’th mae’n plygu’n dwt fel origiami i faint cledr llaw i’w chadw’n deidi mewn poced nesa at dy galon di. Achos dyma ble mae dy bobl di, dy dylwyth a’r rhai sy’n dy garu. Dyma ble mae’r tir a’r awyr yn toddi, yn plethu i’w gilydd yn gybolfa gyfarwydd o gynefin a theulu. A dyma ble mae bwrw gwraidd yn cyfri, dyma ble mae’r egin a’r egni ac yn nerth bôn y fraich daw blagur i dyfu. A sut fedra i esbonio mewn geiriau i chi mai fan hyn yw fi? Elinor Wyn Reynolds

Programme Website
More episodes