Reseit 'Briam' gan HelenMainwaring o Bapur y Cwm
Cynhwysion: (Digon i 2)
1 cilogram o dato
1 cilogram o blanhigyn wy
1 cilogram o domatos ffres, aeddfed
1 cilogram o orbwmpenni (courgettes)
3 winwnsyn
2 lwy fwrdd o bersli wedi'i falu
Llond cwpan o olew olewydd
2 giwb stoc
Dull:
Cynheswch y ffwrn i 200 gradd (180 i ffwrn ffan)
Torrwch y llysiau'n dalpiau bras
Cymysgwch y llysiau a'u gosod mewn 2 dun pobi
Arllwyswch yr olew dros y llysiau
Taenwch y persli dros y cyfan
Malwch y ciwb stco a'i ysgeintio dros y cyfan
Pobwch am awr a hanner
Agorwch y ffwrn bob nawr ac yn y man a throi'r llysiau
Mwynhewch gyda bara ffres neu selsig llysieuol
Gall gadw am sawl diwrnod, a gallwch ei fwynhau'n oer mewn brechdan gyda hwmws, neu ei gynhesu a'i weini gyda phrif gwrs o'ch dewis
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Bore Cothi
- 
                                                
            'Mae di bod yn siwrne wych' - Greg Caine
Hyd: 06:10
 - 
                                                
            Ydi hi'n ta ta i'r twmpath? - Eifion Price
Hyd: 02:43