ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,6 mins

Reseit 'Briam' gan HelenMainwaring o Bapur y Cwm

Bore Cothi

Available for over a year

Cynhwysion: (Digon i 2) 1 cilogram o dato 1 cilogram o blanhigyn wy 1 cilogram o domatos ffres, aeddfed 1 cilogram o orbwmpenni (courgettes) 3 winwnsyn 2 lwy fwrdd o bersli wedi'i falu Llond cwpan o olew olewydd 2 giwb stoc Dull: Cynheswch y ffwrn i 200 gradd (180 i ffwrn ffan) Torrwch y llysiau'n dalpiau bras Cymysgwch y llysiau a'u gosod mewn 2 dun pobi Arllwyswch yr olew dros y llysiau Taenwch y persli dros y cyfan Malwch y ciwb stco a'i ysgeintio dros y cyfan Pobwch am awr a hanner Agorwch y ffwrn bob nawr ac yn y man a throi'r llysiau Mwynhewch gyda bara ffres neu selsig llysieuol Gall gadw am sawl diwrnod, a gallwch ei fwynhau'n oer mewn brechdan gyda hwmws, neu ei gynhesu a'i weini gyda phrif gwrs o'ch dewis

Programme Website
More episodes