Main content

Dwynwen

Dwynwen

O Dwynwen,
pan weli’r gwenyn perlewygol
yn suddo i gôl y gwellt,
a wynebau carn yr ebol
yn plygu’n nes i’w hanwesu
ac i blannu cusanau blêr o baill
ar eu hadenydd bach;

a phan weli’r ffynnon wylaidd
yn torchi godre ei sgert rychog, wydraidd,
er mwyn gwibio o’i bro i bridd dieithr,
i hel ei breuddwyd eofn
am lygaid tanbaid y tir gwlithog
sy’n bywiogi ei lli llawen;

a phan weli di don addfwyn
yn swyno golud y machlud
i goflaid y môr,
a’r haul yn ildio’i fantell rudd
yn fodlon i’r tonnau tyner;

fe weni di,
yn ofni dim,
eisiau dim,
yn sad a doeth,
a throi dy sylw o dwrw’r dorf
a nwydau’r holl gariadon
a’u gadael dan dy fendith hael a theg,
yn gyflawn heb goflaid,
â chalon sy’n llon
a llawn dy dân dy hun.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau 25/01/2020