Episode details

Available for over a year
Dwynwen O Dwynwen, pan weli’r gwenyn perlewygol yn suddo i gôl y gwellt, a wynebau carn yr ebol yn plygu’n nes i’w hanwesu ac i blannu cusanau blêr o baill ar eu hadenydd bach; a phan weli’r ffynnon wylaidd yn torchi godre ei sgert rychog, wydraidd, er mwyn gwibio o’i bro i bridd dieithr, i hel ei breuddwyd eofn am lygaid tanbaid y tir gwlithog sy’n bywiogi ei lli llawen; a phan weli di don addfwyn yn swyno golud y machlud i goflaid y môr, a’r haul yn ildio’i fantell rudd yn fodlon i’r tonnau tyner; fe weni di, yn ofni dim, eisiau dim, yn sad a doeth, a throi dy sylw o dwrw’r dorf a nwydau’r holl gariadon a’u gadael dan dy fendith hael a theg, yn gyflawn heb goflaid, â chalon sy’n llon a llawn dy dân dy hun.
Programme Website