Coedwig gan Judith Musker Turner
Cerdd gan Judith Musker Turner i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2020.
Coedwig
i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2020
Mae’n aeaf yn y goedwig,
y gaeaf oeraf a welwyd erioed
gan y prennau llwyd
sy’n sefyll yn stond,
mewn rhesi difesur
ar y llethrau llwm
fel torf o gyrff noeth yn y niwl.
Mae hi’n ddistaw,
heb ochenaid na si,
ac nid oes un chwa o wynt
i gynhyrfu sudd eu gwythiennau sych
nac i ddeffro’r un ddeilen grin
i ffarwelio golau gwan y dydd.
Mae hi’n nosi,
ac ym mhylni min y nos
mae streipiau dryslyd y brigynnau main
yn rith o freichiau
uwchben düwch y pridd
yn ymestyn
yn erfyniol i’r byd.
Does neb yn y goedwig.
Ond heno, gadawn gysur yr aelwyd dwym
a down gyda’n gilydd rhwng y prennau mud,
gyda gwres ein cyrff a’n canhwyllau claer
i fywiogi’r llonyddwch,
ac mae fflach y fflamau’n deffro atgof hen
ac mae’r coed yn rhynnu.
Clywn sŵn ein sibrydion
fel egin cyntaf y gwanwyn,
a chofiwn bleser y misoedd mwyn,
pan oedd y goedwig mor brysur â ffair,
llawn bwrlwm bywyd a blagur yn byrstio,
gwreiddiau’n tyrchu a sugno’n farus o’r pridd,
ac ymgodymu didostur y glasbren
yn ei ras i gyrraedd ffafr yr haul.
Angof oedd creithiau’r rhisgl
dan duswau’r dail newydd,
a daethom yn ddigymell yn llu
i edmygu’r gogoniant,
â’n llygaid yn osgoi’r cysgodion.
Ond heno,
yn noethni’r gaeaf
er gwaethaf yr oerfel bythol gynyddol
down yn ôl
â’n llygaid ar agor,
down yn ôl,
yn sobor,
at ein coed.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2020 - Judith Musker Turner—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Ionawr 2020 yw Judith Musker Turner.