Main content

Ga’i dy atgoffa di? - Llio Maddocks Bardd y Mis, Chwefror

Ga’i dy atgoffa di?

Diolch am fy atgoffa
i fynd a ‘ngoriada
yn fy mag efo fi
cyn i mi gau drws ffrynt y tÅ·
a chloi fy hun allan
yn y glaw, unwaith eto.

Diolch am fy atgoffa
fod na iogyrt ben pella’r
ffrij, a bod angen ei fwyta
yn y dyddia nesa.
Nai roi o ar fy cereal bore fory,
cyn iddo ddechrau pydru.

Diolch am fy atgoffa
i roi diesel yn y car
cyn dechrau fy siwrna
ar yr A470 am dri o’r gloch y bora.
Y peth ola dwisio
ydi bod yn styc yn Carno.

Rŵan gai dy atgoffa
am un peth bach
Mae o’n anghyffyrddus, yndi,
ond dio’m yn boenus, ddim rili.
Neith o mo dy frifo, a neith o’m cymryd hir,
Gai dy atgoffa di i fynd am smear?

Llio Maddocks

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad

Daw'r clip hwn o