Episode details

Available for over a year
Ga’i dy atgoffa di? Diolch am fy atgoffa i fynd a ‘ngoriada yn fy mag efo fi cyn i mi gau drws ffrynt y tŷ a chloi fy hun allan yn y glaw, unwaith eto. Diolch am fy atgoffa fod na iogyrt ben pella’r ffrij, a bod angen ei fwyta yn y dyddia nesa. Nai roi o ar fy cereal bore fory, cyn iddo ddechrau pydru. Diolch am fy atgoffa i roi diesel yn y car cyn dechrau fy siwrna ar yr A470 am dri o’r gloch y bora. Y peth ola dwisio ydi bod yn styc yn Carno. Rŵan gai dy atgoffa am un peth bach Mae o’n anghyffyrddus, yndi, ond dio’m yn boenus, ddim rili. Neith o mo dy frifo, a neith o’m cymryd hir, Gai dy atgoffa di i fynd am smear? Llio Maddocks
Programme Website