Byddwch fel Boris (golchwch eich dwylo)
Cerdd gan fardd y mis Karen Owen
BYDDWCH FEL BORIS 
(golchwch eich dwylo) 
I Langollen eleni, 
a’i són iach am ein lles ni, 
fe ddaeth y doctor gorau
yma i wlad sy’n amlhau
symptomau gwres a pheswch, 
anhwylder hy’n wael ei drwch…
Fe ŵyr Sais nad feirws yw – 
ceir nad corona ydyw
yn erwau’n tir yr haint aeth
yn boen, fel annibyniaeth: 
Ond ar awr wan, jyst dros dro,
daliwch i olchi’ch dwylo. 
Credwch, fel gwnaeth cariadon,
yn y lân efengyl hon, 
ewyn gwyn addewid gau 
hwn yw Peilat ein polau; 
Waeth o hyd, fel y gwnaeth o, 
eilwaith, golchwch eich dwylo. 
Mae cyfandir ein hiraeth 
yn ei sinc, fel yr oes aeth 
yn heddwch ac yn weddi 
dros gryfhau ein hawliau ni; 
Ond gwell, gwell, mewn byd o’i go’,
‘No deal’. Cofiwch eich dwylo. 
Nid oes ateb i sebon 
gwên slic, carbolic i’r bón, 
a’r Boris siŵr biau’r sedd 
biau nawr pob anwiredd: 
Yr un ddwed trwy’i ’winadd o,
daliwch i sgwrio’ch dwylo. 
Mae’r NHS? Mae rheswm
y dur rhad? Mae’n bwrw’n drwm…
Gawn ni drwydded deledu?
Chwalu tipiau’n dagrau du? 
O’i fyncar ariangar o 
un ddeil i olchi’i ddwylo.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
- 
                                                
            Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
 - 
                                                
            Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
 - 
                                                
            Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
 - 
                                                
            Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03