ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Byddwch fel Boris (golchwch eich dwylo)

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

BYDDWCH FEL BORIS (golchwch eich dwylo) I Langollen eleni, a’i són iach am ein lles ni, fe ddaeth y doctor gorau yma i wlad sy’n amlhau symptomau gwres a pheswch, anhwylder hy’n wael ei drwch… Fe ŵyr Sais nad feirws yw – ceir nad corona ydyw yn erwau’n tir yr haint aeth yn boen, fel annibyniaeth: Ond ar awr wan, jyst dros dro, daliwch i olchi’ch dwylo. Credwch, fel gwnaeth cariadon, yn y lân efengyl hon, ewyn gwyn addewid gau hwn yw Peilat ein polau; Waeth o hyd, fel y gwnaeth o, eilwaith, golchwch eich dwylo. Mae cyfandir ein hiraeth yn ei sinc, fel yr oes aeth yn heddwch ac yn weddi dros gryfhau ein hawliau ni; Ond gwell, gwell, mewn byd o’i go’, ‘No deal’. Cofiwch eich dwylo. Nid oes ateb i sebon gwên slic, carbolic i’r bón, a’r Boris siŵr biau’r sedd biau nawr pob anwiredd: Yr un ddwed trwy’i ’winadd o, daliwch i sgwrio’ch dwylo. Mae’r NHS? Mae rheswm y dur rhad? Mae’n bwrw’n drwm… Gawn ni drwydded deledu? Chwalu tipiau’n dagrau du? O’i fyncar ariangar o un ddeil i olchi’i ddwylo.

Programme Website
More episodes