Stadiwm Wag - Cerdd gan Geraint Roberts
Geraint Roberts yw Bardd y Mis ar Radio Cymru
Stadiwm Wag
Ein stadiwm wag mor agos
yw ein hofn bob dydd a nos;
gofidiau’r oriau aros.
Yn y dirgel mae’r gelyn,
un a ddaeth i’r meysydd hyn
â’i uffern i’r amddiffyn.
Diwyneb wrthwynebydd,
grymusach yw’r gormesydd
yma’n chwarae’r caeau cudd. 
O’n cwmpas o’r terasau 
ambell liw sy’n ymbellhau;
y deyrnas heb Sadyrnau. 
Yn fisoedd heb ddefosiwn
ac yn anochel gwelwn,
ar wahan mae curo hwn. 
Heddiw yn ein caethiwed
cae yr un trwy’r haint yw’n cred,
gêm unig i gymuned. 
Yn ein crysau’r dyddiau du 
unwn yn y gwahanu,
i sgorio wrth wasgaru.
Trwy’r hunllef heb gam-sefyll
awn tua’r tymor tywyll
a churo’r un chwarae hyll.
Fel magnel mae’r tawelwch,
anniddig yw’r llonyddwch
a daw’r hwyr â’i boen yn drwch.
Wedi’r erlid a’r hirlwm
awn â’r llu o’r muriau llwm,
dod wedyn nôl i’r stadiwm. 
Yno fel un awn â’r floedd
i liwiau’r eisteddleoedd,
yfory mewn niferoedd. 
Buan heb ffwdan na ffws,
beunydd fe ddaw ein bonws
a VAR i’r feirws.
Â’r chwiban o’r cylch canol
a thrachefn o gefn y gôl,
fe ddaw awr, torf fyddarol.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
- 
                                                
            Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
 - 
                                                
            Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
 - 
                                                
            Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
 - 
                                                
            Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03