ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,6 mins

Stadiwm Wag - Cerdd gan Geraint Roberts

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

Stadiwm Wag Ein stadiwm wag mor agos yw ein hofn bob dydd a nos; gofidiau’r oriau aros. Yn y dirgel mae’r gelyn, un a ddaeth i’r meysydd hyn â’i uffern i’r amddiffyn. Diwyneb wrthwynebydd, grymusach yw’r gormesydd yma’n chwarae’r caeau cudd. O’n cwmpas o’r terasau ambell liw sy’n ymbellhau; y deyrnas heb Sadyrnau. Yn fisoedd heb ddefosiwn ac yn anochel gwelwn, ar wahan mae curo hwn. Heddiw yn ein caethiwed cae yr un trwy’r haint yw’n cred, gêm unig i gymuned. Yn ein crysau’r dyddiau du unwn yn y gwahanu, i sgorio wrth wasgaru. Trwy’r hunllef heb gam-sefyll awn tua’r tymor tywyll a churo’r un chwarae hyll. Fel magnel mae’r tawelwch, anniddig yw’r llonyddwch a daw’r hwyr â’i boen yn drwch. Wedi’r erlid a’r hirlwm awn â’r llu o’r muriau llwm, dod wedyn nôl i’r stadiwm. Yno fel un awn â’r floedd i liwiau’r eisteddleoedd, yfory mewn niferoedd. Buan heb ffwdan na ffws, beunydd fe ddaw ein bonws a VAR i’r feirws. Â’r chwiban o’r cylch canol a thrachefn o gefn y gôl, fe ddaw awr, torf fyddarol.

Programme Website
More episodes