Main content
Cywydd o Fawl - Capten Huws y Niws!
Aled Hughes yn Rhwyfor’r Llynnoedd
(Her Plant mewn Angen 2020)
Mae capten uwch y Fenai –
Hughes y News yw hwn, ‘Aye, aye!’
yn morio llynnoedd mawrion
pedwar ban o’r unfan hon;
ar ei long yn rhwyfo’r lan,
rhwyfo heb fynd o’r hafan.
Mae Hughes y News yn ei ing
yn stalwart fel Grace Darling,
Steve Redgrave, Ben Hur hefyd,
Huw Puw a Popeye o hyd;
rhwyfwr yw ar dir ei fro,
y Madog nad yw’n mudo!
Dros y Glôb yn llawn gobaith,
ar ei din mae’n mynd ar daith,
yn llywio o bell i well byd,
Columbus ein Clo enbyd.
Dros Blant mewn Angen ’leni,
Huws y News yw’n capten ni.
Ceri Wyn Jones (12.11.20)