Episode details

Available for over a year
Aled Hughes yn Rhwyfor’r Llynnoedd (Her Plant mewn Angen 2020) Mae capten uwch y Fenai – Hughes y News yw hwn, ‘Aye, aye!’ yn morio llynnoedd mawrion pedwar ban o’r unfan hon; ar ei long yn rhwyfo’r lan, rhwyfo heb fynd o’r hafan. Mae Hughes y News yn ei ing yn stalwart fel Grace Darling, Steve Redgrave, Ben Hur hefyd, Huw Puw a Popeye o hyd; rhwyfwr yw ar dir ei fro, y Madog nad yw’n mudo! Dros y Glôb yn llawn gobaith, ar ei din mae’n mynd ar daith, yn llywio o bell i well byd, Columbus ein Clo enbyd. Dros Blant mewn Angen ’leni, Huws y News yw’n capten ni. Ceri Wyn Jones (12.11.20)
Programme Website