Main content
Bardd y mis John Gwilym Jones
Mae hwyl iach uwch marmalȇd
Yn hwyliog raglen Aled
Mae’n rhaglen i hamddena,
Wel ie nawr, am ddwyawr dda;
Aled Hughes gwyd hwyl y tÅ·
 llon acenion canu,
Seiniau recordiau swynol,
Nid sŵn gig y rigmarôl.
Hanes byd mewn sgyrsiau byr
Yn ddihafal o ddifyr
Ac yma’n gwau Môn a Gwent
Yn un teulu llawn talent
Er holl boenau dyddiau dig
Hen dymor y Pandemig
Yn y trafod cartrefol.
Dena haf i’n gwlad yn ôl
Dwyn i’n clyw ein byw a’n bod
Wna hybu pob adnabod.
Rho ragor o’th drysorau
Yma nawr i ni’u mwynhau.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Amgueddfa Lloyd George ar ei newydd wedd
Hyd: 09:40
-
Y tad, y mab a'r snwcer!
Hyd: 08:25
-
Papur gwyddoniaeth am faelgwn
Hyd: 06:18