Episode details

Available for over a year
Mae hwyl iach uwch marmalȇd Yn hwyliog raglen Aled Mae’n rhaglen i hamddena, Wel ie nawr, am ddwyawr dda; Aled Hughes gwyd hwyl y tŷ Â llon acenion canu, Seiniau recordiau swynol, Nid sŵn gig y rigmarôl. Hanes byd mewn sgyrsiau byr Yn ddihafal o ddifyr Ac yma’n gwau Môn a Gwent Yn un teulu llawn talent Er holl boenau dyddiau dig Hen dymor y Pandemig Yn y trafod cartrefol. Dena haf i’n gwlad yn ôl Dwyn i’n clyw ein byw a’n bod Wna hybu pob adnabod. Rho ragor o’th drysorau Yma nawr i ni’u mwynhau.
Programme Website