Main content

Anni Llyn Bardd y Mis a'i cherdd am y Sioe Fawr Dwi isho mynd i'r Sioe.

Anni Llyn Bardd y Mis a'i cherdd am y Sioe Fawr Dwi isho mynd i'r Sioe.

Cerdd Bardd y Mis
Gorffennaf 2021
gan Anni LlÅ·n

Dwi isho mynd i’r sioe.

dwi isho mynd i’r sioe amaeth
dwi isho twll yn fy ngherdyn aelodaeth
dwi isho rhyfeddu fod cymaint yno
a ‘cae sioe’ bron a byrstio
dwi isho syllu ar ben ôl tarw
dwi isho freebie o’r stondin cig carw
dwi isho gweld cneifiwrs yn gwneud yr Haka
a chlywed Aeron ac Alun yn colli eu lleisia
dwi isho darganfod bar cudd yr NSA
a chael peint a dawns i gyfeiliant ‘me-me’
dwi isho hufen iâ dan fynydd o fefus
a fflyrtio efo ffarmwr o berfeddion Powys
dwi isho gweld genod Llangadog yn tynnu rhaff
dwi isho teimlo fod dyfodol cefn gwlad yn saff
dwi isho gweld pwmp pum peint bar yr aeloda
a dwi isho cynllwynio sut i smyglo cardia
dwi isho cyfarfod mam yn NFU am dri
a chlywed Shan Cothi o adeilad y ÃÛÑ¿´«Ã½
dwi isho cefnogi Cymru yn y Gymkhana
dwi isho arogli y lledr yn y stondin tac ceffyla
dwi isho deffro pan ma nhw’n profi’r uchelseinydd
dwi isho isda mewn cab tractor perffaith o newydd
achos dyna be dwi’n gofio
y profiada bach
fel ddoe
fy holl atgofion
sy’n dweud...
...dwi isho mynd i’r sioe.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud