ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Anni Llyn Bardd y Mis a'i cherdd am y Sioe Fawr Dwi isho mynd i'r Sioe.

Bore Cothi

Available for over a year

Cerdd Bardd y Mis Gorffennaf 2021 gan Anni LlÅ·n Dwi isho mynd i’r sioe. dwi isho mynd i’r sioe amaeth dwi isho twll yn fy ngherdyn aelodaeth dwi isho rhyfeddu fod cymaint yno a ‘cae sioe’ bron a byrstio dwi isho syllu ar ben ôl tarw dwi isho freebie o’r stondin cig carw dwi isho gweld cneifiwrs yn gwneud yr Haka a chlywed Aeron ac Alun yn colli eu lleisia dwi isho darganfod bar cudd yr NSA a chael peint a dawns i gyfeiliant ‘me-me’ dwi isho hufen iâ dan fynydd o fefus a fflyrtio efo ffarmwr o berfeddion Powys dwi isho gweld genod Llangadog yn tynnu rhaff dwi isho teimlo fod dyfodol cefn gwlad yn saff dwi isho gweld pwmp pum peint bar yr aeloda a dwi isho cynllwynio sut i smyglo cardia dwi isho cyfarfod mam yn NFU am dri a chlywed Shan Cothi o adeilad y ÃÛÑ¿´«Ã½ dwi isho cefnogi Cymru yn y Gymkhana dwi isho arogli y lledr yn y stondin tac ceffyla dwi isho deffro pan ma nhw’n profi’r uchelseinydd dwi isho isda mewn cab tractor perffaith o newydd achos dyna be dwi’n gofio y profiada bach fel ddoe fy holl atgofion sy’n dweud... ...dwi isho mynd i’r sioe.

Programme Website
More episodes