Cerdd Criced - Derec Llwyd Morgan
Derec Llwyd Morgan yn ceisio argyhoeddi Aled fod criced yn gêm werth chweil.
Mae Aled Hughes yn ddyddiol
Yn trafod popeth byw,
O psyche eleffantod
Yng nghreadigaeth Duw
Hyd lwybyr y planedau
A’u mesuriadau gwiw.
Cewch sgwrs un bore glawog
Am werth pelydrau’r haul,
Cewch sgwrs yn nhywydd garddio
Am fawr rinweddau tail,
A sgyrsiau athronyddol
A fynn mai’r drefn yw’r draul.
Ond mae ambell bwnc na chyffwrdd
Y gwych gyflwynydd hwn:
Nid hwyrach y’i gwrthodai
Pe câi y byd yn grwn.
Ac un o’r pynciau hynny
Yw gêmau criced, m’wn.
Rwy’n synnu nad yw Aled
Â’i ddiddordebau lu
Yn hoff o’r gamp wareiddiaf
Sy’n mawr ddiddori Dyn,
A hynny ar bum cyfandir,
Ie, criced, dyna’r un.
Chwaraeir hi yn Lloeger,
Ac yn yr India bell,
De Affrig sy’n ei chwarae,
A’r Aussies, hwythau’n well:
O, Aled Hughes, fy nghyfaill,
Tyrd allan o dy gell
A gwêl Affganistân
A gwŷr y Caribî
Yn arddel y gêm Seisnig
Na werthfawrogi di.
Mor dlodaidd dy feunyddfyw
Heb ei phrydferthwch hi.
2
Drwyddi, ar hyd fy mywyd,
Mi gefais arwyr gant,
Ugeiniau yma gartref,
Ac eraill ddaeth o bant:
Wilf Wooller, Allan Watkins,
Don Shepherd Penrhyn Gŵyr,
Yw rhai o’r enwau pwysig
A’m hudodd i yn llwyr.
Mae cofion am y gêmau
Mawreddog ’welais gynt
Yn dal i’m cyfareddu
 minnau’n colli ’ngwynt:
Mi welais Vivian Richards
A Botham yr un dydd,
Gweld Gower yn Northampton,
Gweld Younis yng Nghaerdydd.
Pa gofion chwaraeyddol
O’th echdoe, Aled Hughes,
Sydd gennyt ti yn gyfoeth,
Yn gyfoeth at dy iws?
I mi, y mae fy mywyd
Yn siarp o hyd yn rhain:
Fel petawn eto’n fachgen
Ym mhentre Cefn-bryn-brain.