Episode details

Available for over a year
Mae Aled Hughes yn ddyddiol Yn trafod popeth byw, O psyche eleffantod Yng nghreadigaeth Duw Hyd lwybyr y planedau A’u mesuriadau gwiw. Cewch sgwrs un bore glawog Am werth pelydrau’r haul, Cewch sgwrs yn nhywydd garddio Am fawr rinweddau tail, A sgyrsiau athronyddol A fynn mai’r drefn yw’r draul. Ond mae ambell bwnc na chyffwrdd Y gwych gyflwynydd hwn: Nid hwyrach y’i gwrthodai Pe câi y byd yn grwn. Ac un o’r pynciau hynny Yw gêmau criced, m’wn. Rwy’n synnu nad yw Aled Â’i ddiddordebau lu Yn hoff o’r gamp wareiddiaf Sy’n mawr ddiddori Dyn, A hynny ar bum cyfandir, Ie, criced, dyna’r un. Chwaraeir hi yn Lloeger, Ac yn yr India bell, De Affrig sy’n ei chwarae, A’r Aussies, hwythau’n well: O, Aled Hughes, fy nghyfaill, Tyrd allan o dy gell A gwêl Affganistân A gwŷr y Caribî Yn arddel y gêm Seisnig Na werthfawrogi di. Mor dlodaidd dy feunyddfyw Heb ei phrydferthwch hi. 2 Drwyddi, ar hyd fy mywyd, Mi gefais arwyr gant, Ugeiniau yma gartref, Ac eraill ddaeth o bant: Wilf Wooller, Allan Watkins, Don Shepherd Penrhyn Gŵyr, Yw rhai o’r enwau pwysig A’m hudodd i yn llwyr. Mae cofion am y gêmau Mawreddog ’welais gynt Yn dal i’m cyfareddu  minnau’n colli ’ngwynt: Mi welais Vivian Richards A Botham yr un dydd, Gweld Gower yn Northampton, Gweld Younis yng Nghaerdydd. Pa gofion chwaraeyddol O’th echdoe, Aled Hughes, Sydd gennyt ti yn gyfoeth, Yn gyfoeth at dy iws? I mi, y mae fy mywyd Yn siarp o hyd yn rhain: Fel petawn eto’n fachgen Ym mhentre Cefn-bryn-brain.
Programme Website