Main content
Dychwelyd - Kayley Sydenham
Dychwelyd
Codi'n chwim ar ganiad y larwm aflafar'
i wyliau'r haf 'da ni'n chwifio hwyl fawr'
a'r boreau diog, a'r cwsg ychwanegol
i baratoi at y diwrnod mawr.
Brysio, gwisgo 'da'r ffws a ffwdan,
lluniau ar garreg y drws "Gwenwch!"
Emosiynau cymysg, ar ôl cyfnod ansicr
ond, yn yr un cwch 'da ni gyd, cofiwch!
Cwrdd â'n ffrindiau, ac athrawon,
rhannu'r teithiau a'r anturiaethau,
edrych mlan at yr hyn sydd i ddod,
er gwaetha'r newidiadau.
Oherwydd, mai enfys di-liw
yw'r coridorau heb fwrlwm disgyblion,
a llenwir y canfas gwag gwyn
â sblash o liw, llawn atgofion.
Kayley Sydenham
Bardd y Mis, Medi 2021