Episode details

Available for over a year
Dychwelyd Codi'n chwim ar ganiad y larwm aflafar' i wyliau'r haf 'da ni'n chwifio hwyl fawr' a'r boreau diog, a'r cwsg ychwanegol i baratoi at y diwrnod mawr. Brysio, gwisgo 'da'r ffws a ffwdan, lluniau ar garreg y drws "Gwenwch!" Emosiynau cymysg, ar ôl cyfnod ansicr ond, yn yr un cwch 'da ni gyd, cofiwch! Cwrdd â'n ffrindiau, ac athrawon, rhannu'r teithiau a'r anturiaethau, edrych mlan at yr hyn sydd i ddod, er gwaetha'r newidiadau. Oherwydd, mai enfys di-liw yw'r coridorau heb fwrlwm disgyblion, a llenwir y canfas gwag gwyn â sblash o liw, llawn atgofion. Kayley Sydenham Bardd y Mis, Medi 2021
Programme Website