Bardd Mis Tachwedd – Mary Green de Borda
1890
‘Paham y daethoch yma, o dwedwch imi Nhad,
A pham y mynsoch Wladfa ym Mhatagonia Wlad?’
‘O hen fynyddoedd Cymru
Dros foroedd llydan pell,
I gadw ein hiaith i fyny
A gwneuthur cartre’ gwell’.
Richard Jones Berwyn
2021
Plant i blant yr hen ymfudwyr
Ydym ninnau yma ‘nawr,
Sydd yn cofio ein cyndeididau
A’u hymdrechion bach a mawr.
Sudda’r haul tu draw i’r wybren
Heda’r wylan wen yn llon
Clywaf sŵn y tonnau’n torri
Ar y traeth yn Playa Unión.
Tonnau cryfion môr Iwerydd
Yn ymestyn rhyngom sydd.
Yn yr Hen Wlad mae ein gwreiddiau
Yn y Newydd, ein cartref fydd.
‘Cadw’r iaith i fyny’ wnaethom
Sbaeneg hefyd, siarad wnawn,
Cymru sydd yn agos atom
Er y pellter, dyna ein dawn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Amgueddfa Lloyd George ar ei newydd wedd
Hyd: 09:40
-
Y tad, y mab a'r snwcer!
Hyd: 08:25
-
Papur gwyddoniaeth am faelgwn
Hyd: 06:18