Episode details

Available for over a year
1890 ‘Paham y daethoch yma, o dwedwch imi Nhad, A pham y mynsoch Wladfa ym Mhatagonia Wlad?’ ‘O hen fynyddoedd Cymru Dros foroedd llydan pell, I gadw ein hiaith i fyny A gwneuthur cartre’ gwell’. Richard Jones Berwyn 2021 Plant i blant yr hen ymfudwyr Ydym ninnau yma ‘nawr, Sydd yn cofio ein cyndeididau A’u hymdrechion bach a mawr. Sudda’r haul tu draw i’r wybren Heda’r wylan wen yn llon Clywaf sŵn y tonnau’n torri Ar y traeth yn Playa Unión. Tonnau cryfion môr Iwerydd Yn ymestyn rhyngom sydd. Yn yr Hen Wlad mae ein gwreiddiau Yn y Newydd, ein cartref fydd. ‘Cadw’r iaith i fyny’ wnaethom Sbaeneg hefyd, siarad wnawn, Cymru sydd yn agos atom Er y pellter, dyna ein dawn.
Programme Website