Haf Llewelyn Bardd Mis Ebrill Radio Cymru.
Haf Llewelyn Bardd Mis Ebrill Radio Cymru.
Anni Annibyniaeth (Enw ein gast 'Golden Retriever ydy Anni Annibyniaeth)
Do - ddeudish i gangwaith na chaem ni ddim ci
ac wedyn dwn im sut ond - dyma ti...
Anni Annibyniaeth.
Mi ddoist ti'n slei bach a chymryd dy le,
meddianaist fy nhÅ· i - i'r chwith ac i'r y dde.
Ti'n union fel babi, rhaid sortio dy faw
mewn bag ogla neis, ti'n fwy na llond llaw.
Anni Annibyniaeth.
A'r lle'ma? Mae'n llanast, yn flewiach a briga,
yn wlau heb ddim bloda, yn sanna llawn tylla.
Mewn storm 'pocylyptaidd, rhaid mynd am dro,
dwi'n trio dy frysio, ond ti'n y gêr sloooo.
Anni Annibynniaeth.
Ti fel arddegyn - ochneidio a phwdu,
ac os gweli di ful - ti'n siŵr dduwch o'i lyncu.
Anni Annibyniaeth.
Ar dennyn dwi'n deud - 'fi di'r bos - dim lolian'
popeth yn iawn... hyd nes gweli di chwadan;
mae'n sodla i lawr, dwi fel taswn i'n sgio
mae dolydd a ffriddoedd yn gwibio heibio.
Dwi'n gweiddi a bygwth, rhegi, melltithio,
ti'n dod i stop - ond dwi'n dal i wibioooooo.
Anni Annibyniaeth.
Doedd Annibyniaeth ddim i fod fel hyn
roedd popeth i fod yn wynnach na gwyn
yn drefnus yn daclus yn llewyrchus a braf
fel mynd am dro bach neis yn yn yr haf.
Felly Annibyniaeth, dwi wedi cael digon
Be ti'n feddwl ydw i - hulpan wirion?
Dwi am dy werthu ben bore fory,
gai lonydd wedyn - traed i fyny.
Anni Annibyniaeth. 
Ond heno mi aethon i ben Sgeiriau Gwynion
Oddi yno fe welem yn glir y copaon
a thithau'n ddi-dennyn yn dalsyth a hardd,
(Hold on am funud dwi'n swnio fel bardd) -
Fe ddosit ti Anni i eistedd yn dawel 
a'th glustiau tlws yn gwrando'r awel.
'Amynedd sydd angen' meddwn inna'n dyner,
'Mae Annibyniaeth angen amser.'
Anni Annibyniaeth.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Bore Cothi
- 
                                                ![]()  'Mae di bod yn siwrne wych' - Greg CaineHyd: 06:10 
- 
                                                ![]()  Ydi hi'n ta ta i'r twmpath? - Eifion PriceHyd: 02:43 
 
         
             
             
             
            