ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Haf Llewelyn Bardd Mis Ebrill Radio Cymru.

Bore Cothi

Available for over a year

Anni Annibyniaeth (Enw ein gast 'Golden Retriever ydy Anni Annibyniaeth) Do - ddeudish i gangwaith na chaem ni ddim ci ac wedyn dwn im sut ond - dyma ti... Anni Annibyniaeth. Mi ddoist ti'n slei bach a chymryd dy le, meddianaist fy nhŷ i - i'r chwith ac i'r y dde. Ti'n union fel babi, rhaid sortio dy faw mewn bag ogla neis, ti'n fwy na llond llaw. Anni Annibyniaeth. A'r lle'ma? Mae'n llanast, yn flewiach a briga, yn wlau heb ddim bloda, yn sanna llawn tylla. Mewn storm 'pocylyptaidd, rhaid mynd am dro, dwi'n trio dy frysio, ond ti'n y gêr sloooo. Anni Annibynniaeth. Ti fel arddegyn - ochneidio a phwdu, ac os gweli di ful - ti'n siŵr dduwch o'i lyncu. Anni Annibyniaeth. Ar dennyn dwi'n deud - 'fi di'r bos - dim lolian' popeth yn iawn... hyd nes gweli di chwadan; mae'n sodla i lawr, dwi fel taswn i'n sgio mae dolydd a ffriddoedd yn gwibio heibio. Dwi'n gweiddi a bygwth, rhegi, melltithio, ti'n dod i stop - ond dwi'n dal i wibioooooo. Anni Annibyniaeth. Doedd Annibyniaeth ddim i fod fel hyn roedd popeth i fod yn wynnach na gwyn yn drefnus yn daclus yn llewyrchus a braf fel mynd am dro bach neis yn yn yr haf. Felly Annibyniaeth, dwi wedi cael digon Be ti'n feddwl ydw i - hulpan wirion? Dwi am dy werthu ben bore fory, gai lonydd wedyn - traed i fyny. Anni Annibyniaeth. Ond heno mi aethon i ben Sgeiriau Gwynion Oddi yno fe welem yn glir y copaon a thithau'n ddi-dennyn yn dalsyth a hardd, (Hold on am funud dwi'n swnio fel bardd) - Fe ddosit ti Anni i eistedd yn dawel a'th glustiau tlws yn gwrando'r awel. 'Amynedd sydd angen' meddwn inna'n dyner, 'Mae Annibyniaeth angen amser.' Anni Annibyniaeth.

Programme Website
More episodes